Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (108) |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynnau 1 i 2, 4 i 10 a 12 i 15. Ni ofynnwyd cwestiwn 3. Tynnwyd cwestiwn 11 yn ôl.
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gofynnwyd y ddau gwestiwn.
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Dechreuodd yr eitem am 14.24
Gofynnwyd y ddau gwestiwn.
Cynnig Trefniadol
Cafwyd cynnig trefniadol gan Aled Roberts ar ran Kirsty Williams yn unol â Rheol Sefydlog 12.32 i ohirio’r ddadl fer.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4. Dadl ar Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i Brentisiaethau yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 14.30
NDM5142 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar yr ymchwiliad i Brentisiaethau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2012.
Er gwybodaeth: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 16 Ionawr 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.31
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5144 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder dwys ynghylch effaith negyddol bosibl y cynigion i ad-drefnu GIG Cymru ar gleifion.
2. Yn nodi pryderon eang ynghylch y ffordd anghyson y mae byrddau iechyd lleol yn cynnwys y cyhoedd yn y broses o newid y GIG.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro’i harweiniad ar gynnwys y cyhoedd yn y broses o newid gwasanaethau’r GIG i sicrhau na ellir anwybyddu barn y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau ynghylch dyfodol gwasanaethau’r GIG.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
30 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gallu
ateb unrhyw alw ychwanegol a allai godi yn sgîl ad-drefnu GIG
Cymru cyn y caiff unrhyw newidiadau eu gwneud.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5144 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder dwys ynghylch effaith negyddol bosibl y cynigion i ad-drefnu GIG Cymru ar gleifion.
2. Yn nodi pryderon eang ynghylch y ffordd anghyson y mae byrddau iechyd lleol yn cynnwys y cyhoedd o ran newid y GIG.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro’i harweiniad ar gynnwys y cyhoedd yn y newidiadau i wasanaethau’r GIG i sicrhau na ellir anwybyddu barn y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau ynghylch dyfodol gwasanaethau’r GIG.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gallu ateb unrhyw alw ychwanegol a allai godi yn sgîl ad-drefnu GIG Cymru cyn y caiff unrhyw newidiadau eu gwneud.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
6. Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.32
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5146 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad enfawr y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol i economi a diwylliant Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau llwyddiant parhaus y sectorau hyn drwy:
a) adolygu gweithrediad adroddiad Hargreaves, ‘Calon Cymru Ddigidol’, i sicrhau bod ei pholisïau’n berthnasol a chyfoes, yn benodol o ran datblygu system breindaliadau hawliau perfformio i Gymru; a
b) sicrhau bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn adolygu ei strategaeth ar ffurfiau celf yn ystod 2013 ac yn rhoi sylw llawn i’r angen i gynyddu cyfranogaeth yn y celfyddydau, annog pobl ifanc i ymgysylltu â chreadigrwydd, hyrwyddo rhagoriaeth artistig yn Gymraeg a’r Saesneg a gosod Cymru ar lwyfan y byd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
17 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.24
7. Dadl Fer
NDM5145 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Arbennig, Unigryw ac mewn Argyfwng
Y bygythiadau i ddiwydiant Cig Oen Cymru a’r angen i weithredu.
Cafodd y Ddadl Fer ei gohirio yn gynharach yn nhrafodion y dydd.
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 17:24
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 29 Ionawr 2013